Gwladgarwr Gwent / Son of Gwent - Cofio Steffan Lewis
Gwladgarwr Gwent / Son of Gwent - Cofio Steffan Lewis
Click to enlarge
Author(s): Amrywiol/Various
ISBN No.: 9781784617677
Pages: 204
Year: 201912
Format: Trade Paper
Price: $ 17.55
Dispatch delay: Dispatched between 7 to 15 days
Status: Available

''Dwi ddim yn mynd i fod y Steffan Lewis sydd efo canser. Dwi''n mynd i fod yn Steffan Lewis y tad, Steffan Lewis y mab, Steffan Lewis y gwr a Steffan Lewis y gwleidydd.''Wele un o''r cyfrolau tristaf a ddarllenais erioed, ac eto ar un olwg dyma un o''r cyfrolau mwyaf haeddiannol ac arwyddocaol. Roedd Steffan Lewis yn yn un o''r gwleidyddion galluocaf a mwyaf addawol a fagodd ein gwlad erioed. Yng ngeiriau cryno Adam Price, arweinydd presennol Plaid Cymru, roedd gan Steffan ''ryw athrylith i barhau'' o fewn cyfundrefn wleidyddol Cymru am gyfnod hir iawn. Ond, wrth gwrs, nid felly y bu.Cafodd Steffan ei ethol yn aelod o''n Cynulliad Cenedlaethol yn etholiad 2016 i gynrychioli rhanbarth dwyreiniol de Cymru (fel olynydd i Jocelyn Davies, un a fu''n cydweithio ag ef am gyfnod cyn hynny), ac yntau''n wr ifanc 32 mlwydd oed a''r aelod ieuengaf erioed i gael ei ethol i''r Cynulliad ers ei sefydlu. Cyn hynny, roedd wedi creu argraff ffafriol iawn pan safodd fel ymgeisydd Plaid Cymru yn isetholiad Blaenau Gwent 2006 pan gipiodd 6.


5 y cant o''r bleidlais yno, gan brofi ei hun yn Gymro cadarn, croyw a gwleidydd naturiol wrth reddf. Roedd wedi ymddiddori o ddifrif mewn gwleidyddiaeth ac am wella pethau i Gymru ers ei fod yn ifanc iawn.Roedd y rhagolygon yn eithriadol o ffafriol ar gyfer dyfodol disglair, llawn ymroddiad, yn enwedig pan benodwyd Steffan yn llefarydd ei blaid dros faterion allanol, ac ef a ddaeth yn bennaf gyfrifol am fynegi agwedd Plaid Cymru tuag at drafodaethau Brexit. O fewn misoedd darganfuwyd ei fod yn dioddef o gancr nad oedd modd ei drin yn foddhaol, a bu farw yn ystod mis Ionawr 2019 ac yntau''n 34 mlwydd oed.Ac o fewn y gyfrol hyfryd hon ceir llu o gyfraniadau gan aelodau o''i deulu, ffrindiau a gwleidyddion (gyda Dafydd Wigley, Adam Price, Leanne Wood ac Elin Jones yn eu plith) sydd yn llwyddo i glymu''r gwleidyddol a''r personol ynghyd mewn dull arbennig. A cheir nifer o gyfraniadau pwrpasol yma yn Gymraeg a''r Saesneg fel ei gilydd.Disgrifiwyd ef gan Rhuanedd Richards, golygydd ymroddgar y gyfrol, cyn-newyddiadurwr a ffrind agos i Steffan fel ''hen ben ar ysgwyddau ifanc''. Yn y gyfrol, ceir deunydd amrywiol, gan gynnwys cyfraniadau o waith Steffan ei hun (yn eu plith rhai o''i areithiau gwleidyddol cyhoeddus mwyaf grymus a dylanwadol rhwng 2016 a 2018, ac araith sylweddol ar gwrs hanes Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni, Awst 2016, darlith a luniwyd o bersbectif Pleidiwr cadarn a thanbaid), ac atgofion gan bobl oedd yn ei adnabod orau, gan gynnwys rhai o ffigyrau gwleidyddol mwyaf adnabyddus Cymru, ynghyd ' rhai ffrindiau a chyfeillion agos.


Ynghyd '''r erthyglau a''r teyrngedau, a chyfweliad Steffan gyda Beti George ar BBC Radio Cymru yn ystod mis Rhagfyr 2018, ychydig wythnosau''n unig cyn ei farwolaethg, ceir llythyron, lluniau a phytiau mwy personol sy''n cofio''r gwleidydd, y dyn, y mab, y gwr a''r tad a''r cyfaill triw. Yn eu plith ceir teyrngedau twymgalon gan Carwyn Jones, Jonathan Edwards a Jocelyn Davies, ynghyd ' cherddi hyfryd o waith Jim Parc Nest.Yn ei ragair cymen a phwrpasol i''r gyfrol yn y ddwy iaith, cofia Dafydd Wigley mewn cyfraniad sydd yn gosod y naws ar gyfer gweddill y gyfrol: ''Mae rhai pobl yn creu argraff o''r eiliad gyntaf, a''r cyfarfyddiad hwnnw yn sefyll yn y cof trwy''r blynyddoedd. Roedd y tro cyntaf i mi gyfarfod Gwynfor Evans a Dr Phil Williams yn rhai felly, a gwefr arbennig yr eiliad yn aros hyd heddiw. Mae''r diweddar, annwyl, Steffan Lewis yn un o''r nifer bychan, arbennig hwn. Ac anhygoel hynny - o gofio mai cwta ddeng mlwydd oed oedd Steff pan gyfarfûm ag ef am y tro cyntaf, yn Nhy''r Cyffredin.''Pleser pellach yw syllu ar y llu o ffotograffau lliw hyfryd a gynhwysir o fewn y llyfr, ac unwaith yn rhagor rhaid llongyfarch staff y Lolfa am gynhyrchu cyfrol mor hardd ei diwyg sydd yn hyfryd ei thrin a''i thrafod. A rhaid llongyfarch pawb ar ymddangosiad prydlon y llyfr hwn - o fewn blwyddyn ers colli Steffan.


A hyfryd yw darllen y bydd canran o freindal gwerthiant Gwladgarwr Gwent / Son of Gwent: Cofio Steffan Lewis yn cael ei roi i Ysbyty Felindre a fu''n gofalu am Steffan yn ystod ei salwch blin. *********This attractive volume is a splendid tribute to the late Steffan Lewis, one of our ablest and most promising young politicians who was elected a Plaid Cymru member of the National Assembly in 2016, the youngest member ever to sit in the Assembly, and who seemed to have a brilliant future ahead of him, but tragically he died of cancer in January 2019 at the age of 34.For this most appealing memorial volume, a credit to Y Lolfa, many of Steffan''s fellow politicians and colleagues have drafted worthy personal tributes, among them Dafydd Wigley, Adam Price, Leanne Wood and Elin Jones. Other contributors include Carwyn Jones, Jonathan Edwards and Jocelyn Davies, while there are superb verses penned by T. James Jones. The book also republishes several of Steffan Lewis''s keynote political and public speeches, as well as his most poignant radio interview with Beti George only weeks before his premature death. The volume contains many splendid photographs too.


To be able to view the table of contents for this publication then please subscribe by clicking the button below...
To be able to view the full description for this publication then please subscribe by clicking the button below...