Cyfres Ar Bigau : Lleuad Siocled
Cyfres Ar Bigau : Lleuad Siocled
Click to enlarge
Author(s): Arrigan, Mary
ISBN No.: 9781845212049
Pages: 84
Year: 200706
Format: Trade Paper
Price: $ 8.90
Dispatch delay: Dispatched between 7 to 15 days
Status: Available

Addasiad o un o lyfrau poblogaidd Barrington Stoke a geir yma, sef cyfres afaelgar ac amrywiol ei them'u ar gyfer yr arddegwyr.Cris yw'r prif gymeriad yn Lleuad Siocled ac er ei fod yn agos iawn at ei nain, y mae pethau wedi newid ers iddi orfod symud i gartref henoed.Gwelwn nifer o lefelau yma ym mherthynas Cris ''i nain ac ''i rieni, yn ogystal ''r berthynas rhwng tad Cris a'i fam yntau.Yr afiechyd Alzheimers yw'r llinyn sy'n rhedeg drwy'r stori ac fe welwn effeithiau'r afiechyd creulon hwn ar y nain a'r teulu o'i chwmpas. Llithrwn rhwng y byd go iawn a byd nain druan a dyna paham y mae Cris yn benderfynol o'i helpu ac i ddatgelu beth yn union yw'r lleuad siocled. O leiaf wedyn bydd ei nain yn gwella - oni fydd?Y mae'n llyfr hyfryd i geisio cyflwyno'r afiechyd milain hwn i bobl ifanc. Gallant gael cip ar effaith Alzheimers ar y dioddefwr ac ar y bobl sy'n ceisio ymdopi ' gweld person iach a hwyliog yn araf lithro oddi wrthynt.Un nodwedd o'r gyfres hon yw'r ffaith fod nodyn gan bob awdur ar ddechrau pob stori, a chan fod yr awdur yma wedi gweld ei thad yn dioddef o Alzheimers gellir yn hawdd uniaethu ' Cris, a sylweddolwn fod diffuantrwydd yr awdur yn amlwg yn y disgrifio a'r sgyrsiau cynnil.


Siwan Wyn DrakeGellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiat'd Cyngor Llyfrau Cymru.It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.


To be able to view the table of contents for this publication then please subscribe by clicking the button below...
To be able to view the full description for this publication then please subscribe by clicking the button below...