English review follows Llyfr geiriau bach yw Street Welsh gan Heini Gruffudd a all gael ei ddefnyddio gan ddysgwyr Cymraeg fel cymorth wrth ddysgu, neu gael ei gario o gwmpas a'i ddefnyddio mewn sefyllfaoedd bob dydd. Dyma lyfr bach ardderchog sy'n addas i lawer o bobl, o ymwelwyr i Gymru sydd eisiau siarad tipyn bach a deall ychydig o'r hyn y maen nhw'n ei glywed a'i weld yn Gymraeg, i ddysgwyr mwy profiadol. I ddysgwr newydd, mae yma help i ynganu'n ffonetig, felly does dim angen profiad blaenorol o'r iaith. I ddysgwr mwy profiadol, mae'r llyfr hwn yn dod ' geiriau defnyddiol at ei gilydd, nifer ohonynt yn rhai sy'n cael eu hanghofio yn aml gan ddysgwyr, a rhestrau geirfa hefyd i gadarnhau eich Cymraeg.Mae Street Welsh yn darparu ymadroddion a geirfa ddefnyddiol ar gyfer amrywiaeth helaeth o sefyllfaoedd. Mae teitlau'r pynciau yn cael eu hargraffu'n glir iawn ar ymyl pob tudalen ac mae'r ffaith fod cod lliw ar y gwahanol dudalennau (lliw gwahanol ar gyfer sefyllfaoedd, gramadeg a geiriadur) yn gwneud y llyfr hwn yn hawdd i'w ddefnyddio. Caiff y rhan gramadeg ei egluro'n dda er mwyn rhoi blas ar ramadeg Cymraeg neu atgoffa dysgwyr mwy profiadol. Mae'r llyfr yn gorffen gyda geiriadur Cymraeg/Saesneg a Saesneg/Cymraeg a cheir cod lliw gyda'r geiriadur hefyd er mwyn ei wneud yn haws i'w ddefnyddio.
I grynhoi, mae Street Welsh yn llyfr geirfa bach ymarferol a hygyrch sy'n addas i ddysgwyr Cymraeg o wahanol lefelau. Dyma lyfr sy'n ysbrydoli'r darllenydd i fynd mas a cheisio siarad Cymraeg!Sarah Whitehead* * * Street Welsh by Heini Gruffudd is a small, pocket-sized phrasebook which can either be used as a study aid by Welsh learners or carried around and used in everyday situations. This excellent little book is suitable for a wide range of people from visitors to Wales wanting to say a few phrases and understand what they hear and see in Welsh, through to more experienced learners. For the complete beginner, phonetic pronunciation hints are given, so no prior knowledge of the Welsh language is needed in order to have a go. For more experienced learners, this book brings together useful phrases, some of which so often get forgotten, and includes vocabulary lists to extend and reinforce existing knowledge of Welsh. Street Welsh provides useful phrases and vocabulary for an extensive range of situations for a book of its diminutive size. The subject titles are clearly marked on the outer edge of each page and the colour-coded pages distinguish between the different sections of the book (situations, grammar and dictionary) which make for easy navigation. The quick grammar guide has clear explanations and can either provide a taste of Welsh grammar or serve as a prompt to the more experienced learner.
The book concludes with Welsh/English and English/Welsh dictionary, which again, is colour-coded for quick reference.In summary, Street Welsh is a practical and accessible little reference guide to suit Welsh learners of a range of levels which inspires the reader to go out and have a go at speaking Welsh!.