Dyma gyfrol o gerddi llawn swyn a sain gan y Prifardd Mererid Hopwood. Cawn ein denu'n syth at y clawr a'r lluniau lliwgar gan Susie Grindey, ond yn fwy na hynny mae'r teitl rhywsut yn hoelio ein sylw ac yn ein hudo i agor y llyfr a busnesu rhwng y cloriau. Yno, yng nghanol y tudalennau, cawn ein tywys i mewn i fyd o liw a rhyfeddodau plentyn gan ddianc am sbel ar daith drwy deimladau a digwyddiadau - o gerdd go swnllyd am fabi bach i gerdd llawn swyn i'r storïwr mawr, T. Llew Jones. Mae'r cyn-fardd plant yma'n adnabod plant i'r dim. Mae yma ryw empathi rhyfeddol o fewn yr 19 cerdd sy'n llwyddo i dreiddio i fyd plentyn gan gydio'n gelfydd yn y pethau bach annisgwyl a'u troi'n rhyfeddodau. Mae symlrwydd i'r dweud ond eto, mae'r cerddi'n dweud cyfrolau. Gellir eu darllen drosodd a throsodd a'u mwynhau dro ar ôl tro - ar goedd neu'n breifat.
Yn wir, ni ellir rhoi oedran addas ar gyfer y gyfrol hon oherwydd mae modd darllen y cerddi ar sawl lefel. Ond waeth beth fo'ch oedran, ni ellir llai na chael eich hudo gan gerddi'r saer geiriau yma.