Dyma lyfr mawr braf sy'n denu'r llygaid o'r cychwyn cyntaf. Ceir 14 o rigymau i gyd, rhai yn fwy cyfarwydd na'r lleill, ond yr hyn sydd yn gyffredin rhyngddynt yw'r cyfoeth o swn geiriau ac odlau. Mae plant yn mwynhau swn a rhythm geiriau, fel y gwelais gyda'm plant fy hun. Y ffefryn yn ein ty ni oedd y rhigwm am dair merch Gruff Dafi gydag enwau'r tri 'ffeiriad, sef 'Syr Gicwm, Syr Gacwm a Syr Gacabondi', yn arwain at fôr o chwerthin bob tro.Mae'r darluniau sydd yn y llyfr hefyd yn haeddu eu canmol. Maent yn lliwgar, yn fywiog ac yn adlewyrchu bywiogrwydd y rhigymau yn ogystal ' bod yn gymorth i ddeall synnwyr. Mae'n llyfr hyfryd ac yn sicr yn anrheg delfrydol; er hyn, credaf fod y pris o £14.99 ychydig yn ddrud.
Ar nodyn ysgafnach, mae'r maint yn grêt, ond lle mae rhywun i storio llyfr mor fawr? Gallwch ddilyn y cyngor a dderbyniais i: 'twt, stwffia fo o dan y gwely'. Felly, dyna ateb i'r broblem honno!.