English review followsDyma lyfr i''w fodio, a hynny dro ar ôl tro. Ceir sawl ffefryn - Llyn Geirionydd a haen denau o rew ar ei wyneb a chochni''r rhedyn a''r coed ar un ochr a chysgod tywyll yr ochr draw, Llyn Dinas a''i gytiau cychod a niwl ysgafn yn troi''r lliwiau''n feddal, neu Lyn Padarn a chymylau duon, bygythiol uwch ei ben. Mae i bob un ei hud ei hun. Mae''r lluniau yn hynod ddeniadol ac wedi eu hargraffu''n hyfryd, er rhaid cyfaddef nad wyf yn deall awydd argraffwyr i osod llun ar draws dwy dudalen - mae''n difetha mwy ar y llun nag y mae''n ei ychwanegu drwy faintioli. Ond nid llyfr lluniau yn unig yw''r gyfrol. Ceir pwt o ysgrif am bob llyn - tua chant pedwar deg ohonynt. Mae''r ysgrifau ar y cyfan yn dilyn patrwm: disgrifiad o''r lleoliad ynghyd ' rhai manylion daearegol, rhywfaint o eglurhad ar yr enw, stori neu chwedl sy''n gysylltiedig '''r llyn, a rhai manylion am ymyrraeth ddynol - diwydiannol fel arfer. Mae''r arddull yn gryno, yn ymylu ar fod yn foel weithiau, ond yn un sy''n trosglwyddo llawer iawn o wybodaeth amrywiol mewn ychydig frawddegau - camp y gallai ambell gyfrol debyg ei dynwared efallai.
Mae''n gyfrol ddwyieithog, ond, rhaid cyfaddef, mae''r darllenydd Cymraeg yn cael gwell bargen gan fod mwy o liw ac amrywiaeth yn yr ysgrifau Cymraeg. Rhaid edmygu''r awdur nid yn unig am ei ddygnwch yn paratoi cyfrol fel hon, gan ymweld ' nifer o ardaloedd hynod anghysbell, ond am ddal ati dros ddwy flynedd yn hel deunydd. Ond efallai mai''r gamp fwyaf, fel y mae''n cyfaddef yn y rhagair, oedd hedfan uwchben rhai o''r llynnoedd mewn awyren feicroleit, (''mewn basged siopa ar foto beic'') er mwyn cael lluniau gwahanol o''r llynnoedd, ond camp lawn pleser oedd hi, mae''n amlwg. Dyma gyfrol sydd yn rhoi blas ar grwydro tir garw anghysbell i''r darllenydd wrth iddo eistedd mewn cadair freichiau o flaen y t'n, ac mae hynny''n gryn gamp. Roedd gweld ambell lun a darllen ysgrif yn codi awydd arnaf i wisgo côt gynnes, clymu''r esgidiau cerdded a chrwydro''r mynyddoedd unwaith eto. Nid cyfrol bwrdd coffi yw hon - mae''n llawer iawn rhy egnïol i hynny. Dyma gyfrol i''w thrysori.John Roberts*************************************This a book in which one can linger between its covers.
I have quite a few favourites amongst the photographs of the lakes of Snowdonia - Llyn Geirionydd shrouded in a thin frost with rusty ferns and trees on one side, the other cloaked in shadow; Llyn Dinas and its boat houses in the mist, creating a soft focus; and Llyn Padarn with its dark and brooding storm-clouds. Each lake and each illustration holds a special charm. The photographs are enchanting, although I must confess I have never understood a printer''s urge to print a photograph across two pages, as the enhanced size does not compensate for the break in the photograph. But this is not merely a book of photographs. A brief essay accompanies each image - around one hundred and forty of them. These essays follow a pattern: a description of the lake, some geological notes, an attempt to explain the meaning of the name, a fable or folk story linked to the lake and a few words about human intervention in the area - usually industrial. It''s written in a simple, straightforward style, sometimes too sparse, possibly, but a great deal of information is given in very few words, a feat that some other authors could do well to replicate. One admires the author not only for his skill as a photographer but also for his perseverance in visiting so many lakes, many off the beaten track, over a two-year period while preparing this volume.
But, as he confesses in the preface, the greatest challenge was flying above the lakes in a microlight (''a shopping basket on a motor cycle'') in order to get the ideal photograph. The book allows the reader to wander the wild and difficult terrain of Eryri without moving from a comfortable armchair. Some of the photographs and essays make the more adventurous reader want to put on a warm coat and a pair of walking boots in order to view these lakes. This is not a coffee-table book; it is much too lively a volume for that, but it''s certainly a treasure to enjoy.